Dreigiau 19–46 Ulster
Cafodd y Dreigiau grasfa go iawn gan Ulster ar Rodney Parade nos Wener, er iddynt lwyddo i gystadlu gyda’r tîm sydd ar frig y RaboDirect Pro12 yn yr hanner cyntaf.
Dim ond tri phwynt oedd ynddi ar yr egwyl diolch i gais Andy Tuilagi a chicio cywir Tom Prydie i’r tîm cartref. Ond Ulster oedd y tîm gorau o dipyn a phwysleiswyd hynny yn yr ail hanner wrth i’r Gwyddelod ychwanegu tri chais arall at eu tri o’r hanner cyntaf i ennill y gêm yn gyfforddus.
Hanner Cyntaf
Cafodd y Dreigiau’r dechrau perffaith diolch i ddwy gic gosb o droed Prydie yn y deg munud agoriadol cyn i’r ymwelwyr daro’n ôl gyda chais cyntaf y gêm. Y prop, Tom Court, oedd y sgoriwr ffodus wedi i’r dyfarnwr fethu a gweld pas ymlaen iddo gan Ruan Pienaar. Trosodd Pienaar yr ymdrech i roi Ulster ar y blaen.
Methodd Pienaar ddau gyfle wedi hynny i ymestyn y fantais honno gyda chiciau cosb cyn i Tuilagi groesi am gais taclus i’r tîm cartref. Roedd y gwaith adeiladu yn drefnus a phwyllog a doedd neb yn mynd i stopio’r canolwr mawr o bum medr, 13-7 yn dilyn trosiad Prydie.
Ond ychydig funudau’n unig a barodd y fantais cyn i wythwr Ulster, Nick Williams, daranu drosodd o fôn y ryc i adfer mantais yr ymwelwr.
Ac er i Prydie gicio tri phwynt arall i’r Dreigiau wedi hynny, camgymeriad gan y cefnwr oedd yn gyfrifol am roi’r oruchafiaeth yn ôl i’r Gwyddelod ar ddiwedd yr hanner. Tarodd Pienaar ei gic i lawr cyn tirio yn y gornel, 19-16 i’r ymwelwyr ar yr egwyl.
Ail Hanner
Cafwyd chwarter awr o gyfnewid ciciau ar ddechrau’r ail hanner, dwy i Pienaar ac un i Prydie, ond yna dim ond un tîm oedd ynddi yn y chwarter olaf.
Croesodd y canolwr, Darren Cave, i sicrhau pwynt bonws i Ulster toc cyn yr awr cyn i Andrew Trimble ryng-gipio pas Lewis Robling ar y llinell hanner i sgorio pumed yr ymwelwyr ddau funud yn ddiweddarach.
Gostegodd y storm wedi hynny ond roedd amser o hyd i’r eilydd ganolwr, Jared Payne, ychwanegu chweched cais yn y munudau olaf.
Trosodd Pienaar bob un o’r ceisiau ail hanner gan orffen y gêm gyda 21 pwynt a gwobr Seren y Gêm.
Canlyniad hynod siomedig i’r Dreigiau yn y diwedd felly er gwaethaf eu hymdrechion hanner cyntaf. Mae’r canlyniad yn eu cadw un safle yn unig o waelod tabl y Pro12, tra mae Ulster yn mynd o nerth i nerth ar y brig.
Dreigiau
Cais: Andy Tuilagi 29’
Trosiad: Tom Prydie 29’
Ciciau Cosb: Tom Prydie 2’, 10’, 35’, 52’
Ulster
Ceisiau: Tom Court 16’, Nick Williams 32’ Ruan Pienaar 37’, Darren Cave 58’, Andrew Trimble 61’, Jared Payne 78′
Trosiadau: Ruan Pienaar 17’, 33’, 59’, 62’, 79′
Ciciau Cosb: Ruan Pienaar 42’, 49’