Morgan Stoddart
Bydd Morgan Stoddart yn rhydd i chwarae yn erbyn Leinster dros y penwythnos.
Fe ddychwelodd yr asgellwr chwim nôl i ranbarth y gorllewin y penwythnos diwethaf wedi iddo golli 13 mis oherwydd anaf a ddioddefodd yn ystod gêm yn erbyn Lloegr cyn Pencampwriaeth Cwpan y Byd y llynedd.
Cafodd Stoddart ddwy garden felen yn erbyn Clermont am droseddau technegol ond cafodd ei achos ei arolygu gan swyddog disgyblu annibynnol yn dilyn gwrandawiad neithiwr.
Penderfynwyd bod y garden goch yn ddigon o gosb ac mae Stoddart yn rhydd i chwarae ar unwaith.
Cytunwyd nad oedd un o’r troseddau yn ymwneud ag unrhyw chwarae budr tuag at wrthwynebydd.