Gethin Jenkins
Mae Lloyd Williams yn edrych ymlaen at groesawu hen ffrind yn ôl i Gaerdydd wrth i’r Gleision baratoi i herio Toulon yn y Gwpan Heineken ddydd Sul.

Ymhlith y sêr sydd yng ngharfan Toulon mae’r Llew, y Cymro a chyn brop y Gleision, Gethin Jenkins, yn dychwelyd i’r brifddinas am y tro cyntaf ers gadael y rhanbarth dros yr haf.

“Geith Gethin groeso cynnes gan ni’r bechgyn oddi ar y cae,” meddai’r mewnwr.

“Fe fydd hi’n dda i’w weld o eto. Ond ar y cae byddwn ni’n ceisio rhoi gymaint o bwysau a allwn ni arno fe, ac mi fydd hi’n ddiddorol gweld sut bydd y dorf yn ymateb. Mae o wastad wedi chwarae gyda nhw tu ôl iddo fe.”

Pryfocio

Mae’r gwaith pryfocio a thynnu coes eisoes wedi cychwyn rhwng Jenkins a rhai o fechgyn y Gleision. Mae Ceri Sweeney, sydd yn chwarae ei ganfed gêm dros y rhanbarth penwythnos yma, wedi cyfaddef bod ambell neges destun wedi cael eu gyrru.

“Yndi, mae’r bantyr wedi cychwyn,” medai Sweeney.

“Pob tîm ry’ ni’n wynebu, ry’ ni’n rhoi lluniau’r chwaraewyr allweddol ar y wal efo’u rhinweddau o dan y llun. Er enghraifft os maen nhw’n dda am gario’r bêl neu’n amddiffynwyr cryf.

“Pan oedd y bechgyn yn y swyddfa yn gwneud rhain, mi wnaethom ni newid pethau o gwmpas.

“Deud bod Gethin Jenkins yn brop pen tynn, oherwydd tydi o ddim, a deud fod ganddo fo goesau tenau, mae o’n casáu hynny.

“’Nath o frathu ac ateb y neges yn syth” meddai’r maswr.

Profi eu hunain

Wrth siarad am yr her sydd yn wynebu’r Gleision, dywed Phil Davies, Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision: “Mae Toulon yn uned bwerus, tîm pwerus ac sydd efo chwaraewyr o’r safon uchaf ym mhob safle wedi’i lluosi â dau.

“Fydd hi’n achlysur a hanner i brofi ein hunain yn erbyn un o garfannau cryfaf Ewrop.

“Ry’n ni eisiau ennill ac mae gennym ni’r cyfle i wneud hynny. Bydd hi’n anodd ond dwi’n gobeithio bydd y cefnogwyr tu ôl i ni.”