Dan Biggar
Mae maswr y Gweilch, Dan Biggar, wedi canmol maswr Caerlŷr, Toby Flood, trwy ei alw yn “un o’r goreuon yn Ewrop”.

Bydd Biggar yn wynebu Flood yn Welford Road wrth i’r Gweilch herio Caerlŷr yn eu hail gêm yng nghwpan yr Heineken.

‘’Yn bersonol, rwy’n ei gyfri fel un o’r goreuon ym Mhrydain,’’ meddai Biggar wrth ercrugby.com.

‘‘Nid yw’n derbyn y ganmoliaeth y maen ei haeddu.  Mae’n gwybod yn union lle mae’r chwaraewyr angen bod yn ystod gêm,’’ ychwanegodd Biggar.