Mae amddiffynnwr Chelsea, John Terry, wedi penderfynu peidio ag apelio yn erbyn gwaharddiad am bedair gêm a dirwy o £220,000 am sarhau amddiffynnwr QPR Anton Ferdinand yn hilio.

Roedd gan John Terry hyd at 6 o’r gloch heno i herio’r gosb a roddwyd iddo gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr.

‘‘Ar ôl ystyried yn ofalus, rwyf wedi penderfynu peidio ag apelio yn erbyn dyfarniad y Gymdeithas Bêl-droed,” meddai.

“Rwyf am gymryd y cyfle hwn i ymddiheuro i bawb am yr iaith a ddefnyddiais yn erbyn QPR fis Hydref diwethaf.”

Roedd Terry wedi mynnu mai ailadrodd cyhuddiad gan Ferdinand a wnaeth, ond dywedodd y comiswn iddo ddefnyddio’r geiriau fel sarhad ac nad oedd modd dibynnu ar ei amddiffyniad.