Sam Warburton
Mae’r Gleision wedi cadarnhau bod Jamie Roberts a Sam Warburton wedi gwella o’u hanafiadau ac ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Toulon ddydd Sul.
Dim ond chwe munud wnaeth Warburton bara ar y cae yn erbyn Sale yn ei gêm agoriadol yng nghwpan yr Heineken ar ol iddo anafu ei fys, tra roedd Roberts yn cael triniaeth i’w frest.
Ar ol iddo ddangos llun o’i fys ar ei gyfrif Twitter, roedd yn ymddangos y byddai angen triniaeth bellach ar Warburton.
‘‘Roedden ni wedi chwarae’n dda am 50 munud, ond roedd yr ugain munud olaf yn hynod o rwystredig a siomedig. Nid dyna’r canlyniad yr oeddwn yn ei ddisgwyl,’’ meddai Phil Davies, rheolwr y Gleision