Kemy Agustien (Ronnie Macdonald CCA2.0)
Mae un o chwaraewyr gorau Abertawe’n barod i ddod yn ôl i’r tîm ar ôl mis heb chwarae.
Fe ddaeth y chwaraewr canol cae, Kemy Agustien, trwy gêm lawn i dîm 21 y clwb ac mae’n dweud ei fod ar gael os bydd angen ar gyfer y gêm bwysig yn erbyn Wigan ddydd Sadwrn.
Dyw Agustien ddim wedi chwarae gêm lawn ers dechrau’r tymor ond fe helpodd y tîm ifanc i ennill nos Fawrth.
Roedd yn teimlo’n iawn ar y diwedd, meddai, ac fe fyddai ar gael pe bai ei angen pan fydd Roberto Martinez yn dod â’i dîm yntau yn ôl i’r Liberty.
‘Teimlo’n dda’
“Ro’n i’n teimlo fy mod wedi chwarae’n dda,” meddai Agustien wrth wefan Abertawe. “Fe wnes i greu ambell gyfle un ac un i ’nghyd-chwaraewyr ac mae bola’r goes yn teimlo’n dda.”
Fe fydd Abertawe’n awyddus i ennill ddydd Sadwrn ar ôl cyfres o gêmau heb fuddugoliaeth ac fe fydd yr ymdrech yn fwy brwd fyth yn erbyn y dyn a ddechreuodd y chwyldro chwarae pert yn Abertawe.