Craig Bellamy
Mae rheolwr Cymru wedi dweud na fydd yn crefu ar Craig Bellamy i chwarae dros ei wlad.
Fe ddywedodd Chris Coleman fod y drws yn agored i flaenwr Caerdydd, ond mai mater i Bellamy oedd chwarae tros Gymru neu beidio.
Dyw Bellamy ddim wedi chwarae yn y pedair gêm ddiwetha’, a hynny oherwydd anafiadau ond mae amheuon wedi codi am ei yrfa ryngwladol.
Yn ôl Chris Coleman, mae eisiau canolbwyntio ar y chwaraewyr sy’n chwarae’n gyson – fyddai canolbwyntio ar Bellamy ddim yn deg iddyn nhw.
“Chwaraewyr sy’n methu â bod yma … rhai wedi anafu,allan nhw ddim helpu hynny … falle bod un neu ddau ddim eisiau bod yma … mater iddyn nhw yw hynny,” meddai mewn cyfweliad gyda’r BBC.