Mike Phillips - un o'r chwaraewyr sydd yn Ffrainc
Mae’r gŵr busnes a fu’n rhoi arian i gynnal rhanbarth rygbi’r Gweilch yn dweud bod rhaid i Undeb Rygbi Cymru roi mwy o arian i mewn i’r gêm ranbarthol.
“Os ydyn ni am i chwaraewyr Cymru chwarae ac aros yma, rhaid i bethau newid,” meddai Mike Cuddy sydd newydd ymddiswyddo o fod yn gyd-rheolwr gyfarwyddwr ar y Gweilch.
Mae rhes o chwaraewyr gorau’r rhanbarth wedi symud i chwarae i Ffrainc yn ystod y ddau dymor diwetha’ ac fe rybuddiodd y byddai adroddiad gan y cyfrifwyr Price Waterhouse Cooper yn creu darlun du iawn.
Mae’n honni mai dim ond £6 miliwn y flwyddyn y mae’r Undeb Rygbi’n ei gyfrannu at y rhanbarthau ond eu bod yn galw’n gyson am ryddhau chwaraewyr am fwy o amser ar gyfer gêmau rhyngwladol.
“Nid cyd-ddigwyddiad oedd y Gampau Lawn yn 2005 nac yn 2008 a 2012 chwaith,” meddai. “Y sail a’r cyd-destun oedd gêm ranbarthol gadarn.”