Dathlu buddugoliaeth Aled Sion Davies yn y Gemau Paralympaidd
Mae’r cyfraniadau i elusennau anabledd corfforol wedi codi’n sylweddol yn ystod yr haf eleni, o ganlyniad i’r Gêmau Paralympaidd.
Dyna’r casgliad o arolwg o’r rhoddion i’r tair ohonyn nhw trwy’r gwasanaeth ar-lein, Just Giving.
Mae’r ystadegau’n dangos fod tair elusen wedi derbyn bron £70,000 trwy’r wefan yn ystod mis Awst eleni, o’i gymharu â llai na £25,000 yr un mis y llynedd.
Mae’r wefan yn golygu bod pobol wedi gallu cyfrannu wrth wylio’r chwaraeon ar y teledu ac roedd y Gymdeithas Baralympaidd Brydeinig ymhlith y mudiadau a elwodd.
“Bydd yr arian yn ein helpu i gynnal y momentwm a grëwyd gan y Gêmau a sicrau bod athletau sy’n anelu am Rio a thu hwnt yn cael yr un cefnogaeth â’r rhai yn Llundain,” meddai prif Weithredwr y Gymdeithas, Tim Hollingsworth.