Gleision 3–18 Glasgow
Colli fu hanes y Gleision yn y RaboDirect Pro12 nos Sadwrn mewn gêm ddiflas yn erbyn Glasgow ar Barc yr Arfau.
Ciciodd y canolwr, Pete Horne, chwe chic gosb i’r Albanwyr wrth i’r Gleision dalu’n ddrud am eu diffyg disgyblaeth a’u hanallu i gystadlu ymhlith y blaenwyr. Tri phwynt o droed Leigh Halfpenny oedd unig ymateb y tîm cartref.
Roedd sgrym y Gleision dan bwysau trwy gydol y gêm a chawsant eu cosbi dro ar ôl tro. Dyna oedd y rheswm am sawl un o’r chwe chic gosb a drosodd Horne.
Llwyddodd Horne gyda phedair yn yr hanner cyntaf cyn i Halfpenny gau’r bwlch i naw pwynt cyn yr egwyl. Yna, ychwanegodd ciciwr Glasgow ddwy arall yn yr ail hanner wrth i’r ymwelwyr ennill yn gyfforddus.
Bu bron i Halfpenny sgorio cais i’r Gleision yn yr ail hanner ond cafodd y bêl ei tharo o’i ddwylo wrth iddo geisio tirio. A methodd y Cymry a tharo’n ôl hyd yn oed pan aeth Glasgow lawr i bedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn melyn y bachwr, Dougie Hall.
Canlyniad siomedig i’r Gleision felly a chanlyniad sy’n eu cadw yn hanner gwaelod tabl y Pro12, yn y seithfed safle ar ôl chwe gêm.
Ymateb
Phill Davies, hyfforddwr y Gleision:
“Gêm wael iawn, ond er clod i Glasgow fe ddaethon nhw yma gyda chynllun ac fe gicion nhw eu ffordd at y fuddugoliaeth. Fe gawsom ni ganlyniad gwael heno, ac mae’n rhaid inni ddysgu oddi wrtho.”
.
Gleision
Cic Gosb: Leigh Halfpenny 39’
Glasgow
Ciciau Cosb: Pete Horne 17’, 25’, 28’, 34’, 46’ 58’
Cerdyn Melyn: Dougie Hall 67’