Ipswich 1–2 Caerdydd


Sgoriodd Heidar Helguson ddwywaith yn yr ail hanner i gipio tri phwynt i Gaerdydd yn erbyn Ipswich ar Ffordd Portman nos Sadwrn.

Rhoddodd DJ Campbell y tîm cartref ar y blaen yn ddadleuol ychydig funudau cyn yr egwyl ond sgoriodd y blaenwr o Wlad yr Iâ ddwywaith yn yr ail gyfnod i godi’r Adar Gleision i frig y Bencampwriaeth.

Rhwydodd Campell dri munud cyn yr egwyl ond ni ddylai’r gôl fod wedi ei chaniatáu gan i groesiad Lee Martin wyro i gefn rhwyd Caerdydd oddi ar law Campell.

Dechreuodd Caerdydd yr ail hanner yn well a daeth Peter Wittingham yn agos gydag ymdrech o bell.

Ac roedd y Cymry’n gyfartal toc wedi’r awr pan sgoriodd Helguson yn dilyn camgymeriad gan Scott Loach. Methodd gôl-geidwad Ipswich a dal croesiad Craig Conway ac roedd Helguson wrth law i rwydo.

Bu bron i Andrew Taylor ennill y gêm i Gaerdydd wedi hynny ond gwnaeth Loach yn iawn am ei gamgymeriad gydag arbediad da.

Ond fe ddaeth y gôl fuddugol i’r ymwelwyr yn y diwedd ddau funud cyn y chwiban olaf ac roedd Taylor yn ei chanol hi eto. Croesiad y cefnwr a ddaeth o hyd i Helguson wrth y postyn pellaf a pheniodd yntau i gefn y rhwyd i gipio’r fuddugoliaeth i’r Adar Gleision.

Ac mae’r fuddugoliaeth yn codi Caerdydd yn ôl i frig y Bencampwriaeth wedi i Gaerlŷr dreulio awr neu ddwy yn y safle hwnnw’n dilyn eu buddugoliaeth dros Bristol City yn gynharach yn y dydd.

.

Ipswich

Tîm: Loach, Cresswell, Chambers, Higginbotham, Edwards, Emmanuel-Thomas, Martin, Wellens (Luongo 73’), Drury, Campbell (Scotland 59’), Murphy (Bilel 90’)

Gôl: Campell 45’

Cerdyn Melyn: Drury 42’

Caerdydd

Tîm: Marshall, McNaughton (Turner 90’), Taylor, Hudson, Connolly, Whittingham, Cowie, Noone (Conway 55’), Gunnarsson, Mason (Gestede 64), Helguson

Goliau: Helguson 63’, 88’

Torf: 16,434