Gap Cei Connah 1–3 Y Seintiau Newydd


Sgoriodd y Seintiau dair gôl wrth guro Gap Cei Connah yn gyfforddus o flaen camerâu Sgorio yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy brynhawn Sadwrn.

Roedd y Seintiau ar y blaen ar hanner amser diolch i gôl i’w rwyd ei hun gan amddiffynnwr Gap, Daniel Dobbins. A sicrhawyd y fuddugoliaeth yn yr ail gyfnod gyda goliau Michael Wilde ac Aeron Edwards cyn i Michael Robinson sgorio gôl gysur hwyr i’r tîm cartref.

Methodd Wilde gyfle euraidd i agor y sgorio yn gynnar yn dilyn pas wych Alex Darlington ond crafodd ei ergyd heibio’r postyn.

Ond fe ddaeth y gôl gyntaf yn fuan wedyn pan beniodd Dobbins gic rydd Chris Seargeant i’w rwyd ei hun dan bwysau gan Steve Evans.

Bu rhaid aros bron i hanner awr am ymgais gyntaf Gap ond llwyddodd Paul Harrison ymdrech Dean Canning yn gyfforddus.

Dim ond un gôl ynddi ar yr egwyl felly ond y Seintiau oedd y tîm gorau o dipyn ac amlygwyd hynny eto yn yr ail gyfnod.

Gwnaeth John Rushton yn dda iawn i atal un cynnig gan Wilde ond cafodd y blaenwr y gorau ar y gôl-geidwad hanner ffordd trwy’r hanner pan beniodd groesiad hir Seargeant yn ôl ar draws y gôl ac i gefn y rhwyd.

Cadwodd Rushton Cei Connah yn y gêm wedi hynny trwy arbed ymdrechion Kai Edwards ac Aeron Edwards cyn i Aeron Edwards sicrhau’r fuddugoliaeth gyda’r drydedd gôl bum munud o’r diwedd. A thipyn o gôl oedd hi hefyd – y chwaraewr canol cae yn torri’r trap camsefyll cyn codi’r bêl yn gelfydd dros y golwr.

Gorffennodd Gap y gêm yn well a sgoriodd Robinson yn yr amser a ganiateir am anafiadau ond rhy ychydig rhy hwyr oedd honno.

Mae’r canlyniad yn codi’r Seintiau’n ôl i frig Uwch Gynghrair Cymru wedi i Fangor dreulio noson yno, ac mae Cei Connah ar y llaw arall yn aros yn bumed.

Ymateb

Craig Harrison, Cyfarwyddwr Pêl Droed y Seintiau:

“Fe chwaraeodd yr hogiau’n dda iawn yn yr hanner cyntaf, yna fe gawsom ni gyfnod braidd yn wan am ugain munud yn yr ail hanner, ond yna fe wnaeth sgorio’r ail a’r drydedd gôl fyd o wahaniaeth”

Seren y gêm y sgoriwr y drydedd gôl, Aeron Edwards:

“Mae’n neis sgorio i sicrhau’r canlyniad ond dwi’n meddwl ein bod ni’n ei haeddu fo yn y diwedd, fe wnaethon ni reoli’r gêm a chael y tri phwynt.”

.

Gap Cei Connah

Tîm: Rushton, Robinson, McGregor, Dobbins, Petrie, C. Jones, Rowntree, Hooley, R. Jones (Thompson 62’), Evans, Canning (Healey 70’)

Gôl: Robinson 90’

Cerdiau Melyn: McGregor 63’, Dobbins 71’

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Spender, K. Edwards, Evans, Marriott, Finley (Quigley 90’, A. Edwards, Jones, Darlington (Fraughan 70’), Seargeant (Ruscoe 86’), Wilde

Goliau: Dobbins [g.e.h.] 18’, Wilde 66’, Edwards 86’

Torf: 428