Tamworth 1–2 Casnewydd


Dychwelodd Casnewydd i frig Uwch Gynghrair y Blue Square brynhawn Sadwrn gyda buddugoliaeth oddi cartref yn Tamworth.

Rhoddodd Ismail Yakubu y tîm o Gymru ar y blaen yn hwyr yn yr hanner cyntaf cyn i Adam Cunnington unioni i’r tîm cartref ar yr awr. Ond roedd Casnewydd yn ôl ar y blaen o fewn dau funud diolch i gôl Aaron O’Connor ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd.

Dechreuodd Casnewydd yn dda a bu rhaid i John Dempster glirio ymdrech gynnar Danny Crow oddi ar linell gôl Tamworth.

Yna, yn ddwfn i’r amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf fe beniodd Yakubu’r ymwelwyr ar y blaen o gic gornel Jake Thompson.

Fe unionodd Cunnington y sgôr ar yr awr pan beniodd yntau groesiad Peter Till heibio i Lenny Pidgeley yn y gôl i Gasnewydd.

Ond adferodd O’Connor fantais y Cymry ddau funud yn unig yn ddiweddarach pan rwydodd ei nawfed gôl o’r tymor wedi i Lee Minshull ddod o hyd iddo yn y cwrt cosbi.

Buddugoliaeth dda felly i Gasnewydd oddi cartref yn erbyn tîm o’r hanner uchaf ac mae’r canlyniad hwnnw yn eu codi hwy yn ôl i frig tabl y Blue Square diolch i fuddugoliaeth Wrecsam yn erbyn Forest Green.

.

Tamworth

Tîm: Breedon, Marshall, Courtney, Dempster, Taylor, Kelly (Collins 71’), Baldock (Hendrie 60’), Kerry, Till (Marna 87’), Cunnington, Wright

Gôl: Cunnington 61’

Cardiau Melyn: Baldock 24’, Hendrie 86’

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, Pipe, James (Hughes 75’), Yakubu, Porter, Minshull (Flynn 85’), Swallow, Sandell, Thomson, O’Connor (Louis 71’), Crow

Goliau: Yakubu 45’, O’Connor 63’

Cardiau Melyn: Minshill 28’, Pipe 54’

Torf: 1,201