Wrecsam 2–1 Forest Green
Roedd dwy gôl ail hanner Adrian Ciezlewicz yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth gartref i Wrecsam brynhawn Sadwrn yn erbyn y tîm a oedd ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square, Forest Green.
Wrecsam oedd y tîm gorau ac roedd y tri phwynt yn haeddianol er i ddeg dyn yr ymwelwyr achosi diweddglo diddorol diolch i gôl hwyr James Norwood.
Wrecsam a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ond di sgôr oedd hi ar yr egwyl er i Andy Morrell ddod yn agos gyda pheniad yn y munudau agoriadol ac felly hefyd Danny Wright wrth i’r egwyl agosáu.
Ond roedd y Dreigiau ar y blaen cyn yr awr diolch i gôl gyntaf Cieslewicz. Manteisiodd yr asgellwr chwim ar amddiffyn gwan cyn curo cyn golwr Wrecsam, Sam Russell, a oedd wedi mentro ym mhell allan o’i gôl.
Fe wnaeth Russell yn well pan gafodd Cieslewicz gyfle i ddyblu mantais y tîm cartref chwarter awr yn ddiweddarach ond doedd hi ddim yn hir cyn i’r Pwyliad ychwanegu’r ail. Gôl braidd yn ffodus oedd honno wrth i ergyd wan Johnny Hunt wyro oddi arno i gefn y rhwyd ond doedd neb mewn crys coch yn cwyno.
Sôn am goch, dyna liw y cerdyn a welodd eilydd Forest Green, Reece Styche, chwarter awr o’r diwedd yn dilyn dim ond wyth munud ar y cae.
Ond er iddynt orffen y gêm gyda dim ond deg dyn, yr ymwelwyr a gafodd y gair olaf wrth i Norwood sgorio yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Diweddglo nerfus i’r Dreigiau felly ond tri phwynt haeddianol i’r Cymry. Aros yn drydydd yn nhabl y Blue Square y mae tîm Andy Morrell serch hynny ond maent yn cau’r bwlch ar Forest Green yn yr ail safle i bwynt yn unig.
.
Wrecsam
Tîm: Mayebi, Wright, Ashton, Riley, Westwood, Cieslewicz (Rushton83’), Harris (Clarke 82’), Keates, Hunt, Wright, Morrell (Ormerod 72’)
Goliau: Cieslewicz 57’, 73’
Cardiau Melyn: Keates 32’, Harris 66’
Forest Green
Tîm: Russell, Stokes, Turley, Oshodi, Asafu-Adjaye, Bangura (Brogan 12’), Forbes, Collins, Vieira (Styche 67’), Taylor, Wright (Norwood 59’)
Gôl: Norwood 90’
Cardiau Melyn: Brogan 34’, Collins 45’, Styche 70’
Cerdyn Coch: Styche 75’
Torf – 4,053