Mike Phillips
Mae clwb rygbi Bayonne wedi penderfynu y bydd eu mewnwr, Mike Phillips yn cael chwarae eto, ar ôl iddo dderbyn gwaharddiad am ymddygiad drwg.
Cafodd ei wahardd ar gyfer y gêm yn erbyn Biarritz, er y byddai wedi colli’r gêm honno ag anaf i’w law beth bynnag.
Penderfynodd y clwb ei ddisgyblu yn dilyn cyfres o nosweithiau allan heb ganiatâd, a’r diweddaraf o’r rheini yn dilyn y gêm a gollodd ei dîm yn erbyn Toulouse.
Mae disgwyl iddo ddychwelyd i’r tîm ar gyfer yr ornest yn erbyn Modigliano yng Nghwpan Amlin ar Hydref 12.
Fe fydd Bayonne yn cwrdd â mewnwr Cymru yr wythnos nesaf i drafod ei ymddygiad.
Ymunodd â chlwb Bayonne o’r Gweilch yn 2011.
Cafodd Mike Phillips ei wahardd gan Gymru 15 mis yn ôl yn dilyn ffrwgwd y tu allan i fwyty yng Nghaerdydd.