Prestatyn 4-1 Gap Cei Connah
Cipiodd Prestatyn fuddugoliaeth yn erbyn Cei Connah ar Erddi Bastion nos Wener diolch i ddwy gic rydd gan Ross Stephens.
Roedd y tîm cartref ar y blaen o ddwy erbyn hanner amser diolch i goliau Michael Parker a chweched y tymor i Andy Parkinson. A sicrhawyd y tri phwynt gyda dwy gic rydd o 25 llath gan Stephens wedi’r egwyl, y naill chwarter awr o’r diwedd a’r llall ddeg munud yn ddiweddarach.
Fe wnaeth yr eilydd, Rhys Healey, rwydo gôl gysur i Gei Connah ond roedd Prestatyn yn llawn haeddu’r tri phwynt. Ac mae’r tri phwynt hwnnw yn eu cadw’n ail yn nhabl yr Uwch Gynghrair gyda dim ond gwahaniaeth goliau yn eu gwahanu hwy a’r Seintiau Newydd. Mae Gap ar y llaw arall yn llithro un lle i’r pumed safle.
(Torf – 248)
Airbus 5-1 Aberystwyth
Mae Airbus bellach wedi sgorio deuddeg gôl yn eu dwy gêm ddiwethaf yn dilyn buddugoliaeth swmpus arall brynhawn Sadwrn, yn erbyn Aberystwyth y tro hwn ar y Maes Awyr.
Sgoriodd Steve Abbott hatric yn y fuddugoliaeth o 7-1 yn erbyn y Drenewydd yr wythnos diwethaf ac roedd yr ymosodwr yn ei chanol hi eto’r penwythnos hwn. Sgoriodd ei gyntaf yn y chwarter awr agoriadol yn dilyn gwaith creu da Ryan Wade.
Bu bron i Abbott ychwanegu ail cyn yr egwyl ond llwyddodd James Wood i’w atal, ond llwyddodd y tîm cartref i ddyblu eu mantais yn gynnar yn yr ail gyfnod gyda pheniad Wayne Riley yn dilyn gwaith da ar yr asgell gan Wade unwaith eto.
Creodd Wade ddwy arall wrth i Abbott gwblhau ei hatric gyda chwarter y gêm yn weddill cyn sgorio gôl haeddianol ei hun yn y munudau olaf i gwblhau’r chwalfa.
Roedd Jordan Follows wedi sgorio gôl gysur i Aber cyn hynny ond doedd dim amheuaeth pwy oedd yn haeddu’r tri phwynt. Ac mae’r tri phwynt hwnnw’n codi Airbus i’r pedwerydd safle yn y tabl tra mae Aber yn aros ar y gwaelod.
(Torf – 212)
Caerfyrddin 0-1 Bangor
Cadwodd Bangor y pwysau ar y ddau uchaf gyda buddugoliaeth yn erbyn Caerfyrddin ar Barc Waun Dew brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd Chris Simm unig gôl y gêm wedi dim ond dau funud yn dilyn camgymeriad gwael gan gôl-geidwad Caerfyrddin, Steve Cann.
Yn y pen arall fe wnaeth golwr yr ymwelwyr, Lee Idzi, dipyn gwell i atal cic rydd Paul Fowler cyn yr egwyl a bu bron i Jonathan Hood sgorio gydag ymdrech din dros ben yn hwyr yn y gêm.
Roedd un gôl yn ddigon i Fangor felly ac mae’r canlyniad yn eu cadw yn dynn ar sodlau Prestatyn a’r Seintiau tra mae Caerfyrddin yn parhau i lithro lawr y tabl yn dilyn eu dechrau da i’r tymor, maent bellach yn ddegfed.
(Torf – 281)
Llanelli 1-4 Bala
Cymaint yw trafferthion Llanelli oddi ar y cae, roedd amheuaeth a fyddai’r gêm yn erbyn y Bala ar Stebonheath brynhawn Sadwrn hyd yn oed yn cael ei chwarae. Fe gafwyd gêm yn y diwedd ac ychwanegodd yr ymwelwyr at wewyr y Cochion gyda buddugoliaeth gyfforddus.
Rhoddodd Mark Connolly’r gogleddwyr ar y blaen gyda chic rydd gelfydd hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf cyn i Kenny Lunt ddyblu’r fantais gydag ergyd o’r asgell chwith.
Rhwydodd Ian Sheridan y drydedd yn gynnar yn yr ail hanner funudau wedi i ymdrech arall ganddo gael ei gwrthod am gamsefyll. A bu rhaid i’r ymwelwyr orffen y gêm gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch Stephen Brown ar yr awr.
Roedd Llanelli braidd yn anlwcus trwy gydol y gêm gan daro’r pren deirgwaith ac roedd gôl gysur Martin Rose bum munud o’r diwedd yn un haeddianol. Ond y Bala a gafodd y gair olaf serch hynny wrth i’r eilydd, Lewis Codling, ychwanegu pedwaredd yn yr eiliadau olaf.
Mae’r canlyniad yn codi’r Bala i wythfed yn y tabl, dros ben Llanelli sy’n disgyn i’r nawfed safle.
(Torf – 170)
Y Seintiau Newydd 5-0 Port Talbot
Sgoriodd Alex Darlington hatric hanner cyntaf wrth i’r Seintiau guro Port Talbot mewn steil ar Neuadd y Parc brynhawn Sadwrn.
Rhwydodd Darlington ei gyntaf gydag ergyd daclus ar draws gôl wedi dim ond pum munud cyn ychwanegu ail o’r smotyn hanner ffordd trwy’r hanner. Derbyniodd Paul Keddle gerdyn coch am ei drosedd wrth ildio’r gic honno felly roedd gan y Gŵyr Dur fynydd i’w ddringo.
Doedd fawr o syndod gweld y Seintiau yn ychwanegu dwy arall cyn yr egwyl felly, Chris Seargeant yn sgorio’r drydedd cyn i Darlington gwblhau ei hatric gydag ergyd nerthol i’r gornel isaf.
Fe waneth Port Talbot yn dda os rhywbeth i gyfyngu’r Seintiau i ddim ond un gôl yn yr ail hanner ac fe ddaeth honno i Michael Wilde ar yr awr.
Mae’r fuddugoliaeth yn ddigon i gadw’r Seintiau ar frig yr Uwch Gynghrair er mai dim ond gwahaniaeth goliau sydd yn eu cadw uwch ben Prestatyn. Mae Port Talbot ar y llaw arall yn disgyn i’r seithfed safle ar ôl colli am y tro cyntaf mewn chwe gêm gynghrair.
(Torf – 203)
Lido Afan 2-3 Y Drenewydd
Roedd angen gôl hwyr ar y Drenewydd i drechu Lido Afan o flaen camerâu Sgorio yn Stadiwm Marstons brynhawn Sadwrn.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen ddwywaith yn chwarter awr agoriadol yr ail hanner gyda goliau Steve Blenkinsop a Zac Evans ond fe unionodd Lido ddwywaith hefyd diolch i Keiron Howard a Paul Evans.
Yna, sgoriodd Mark Jones i’w rwyd ei hun bum munud o’r diwedd i gyflwyno’r tri phwynt i’r Drenewydd. Tri phwynt sydd yn eu codi hwy i’r chweched safle tra mae Lido’n disgyn i’r unfed safle ar ddeg.
(Torf – 333)