Tarodd Ewrop yn ôl yn erbyn yr Unol Daleithiau nos Sul i gadw eu gafael ar Gwpan Ryder yng nghlwb Medinah yn Chicago.
Dros nos, roedd Ewrop bedwar pwynt tu ôl i’w gwrthwynebwyr, 10-6, ac roedd hi’n edrych yn annhebygol y bydden nhw’n gallu ennill wrth fynd benben â’i gilydd yn rownd y senglau wrth anelu am 14 pwynt.
Luke Donald oedd y cyntaf i ennill pwynt i Ewrop, wrth guro’r chwaraewr llaw chwith, Bubba Watson ar dwll rhif 17.
Yr Almaenwr, Martin Kaymer enillodd pwynt rhif 14 i Ewrop yn erbyn Steve Stricker, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cadw eu gafael ar y tlws.
Sicrhaodd yr Eidalwr, Francesco Molinari hanner pwynt mewn gêm gyfartal yn erbyn Tiger Woods er mwyn cipio’r fuddugoliaeth o 14½ i 13½.
Hwn oedd union sgôr yr ornest yn Boston ym 1999, ond yr Unol Daleithiau aeth â hi y diwrnod hwnnw.
Yn ystod y twrnament, enillodd y Sais Ian Poulter bob pwynt a oedd ar gael iddo.
Wrth dderbyn y tlws, talodd capten Ewrop, Jose Maria Olazabal deyrnged i’w gyfaill, ei gyd-chwaraewr a’i gyd-wladwr, Seve Ballesteros.
Bu farw’r seren y llynedd.
Canlyniadau’r senglau:
Curodd Donald Watson 2&1
Curodd Poulter Simpson 2 ar y blaen
Curodd McIlroy Bradley 2&1
Curodd Rose Mickelson 1 ar y blaen
Curodd Lawrie Snedeker 5&3
Curodd Johnson Colsaerts 3&2
Curodd Johnson McDowell 2&1
Curodd Garcia Furyk 1 ar y blaen
Curodd Dufner Hanson 2 ar y blaen
Curodd Westwood Kuchar 3&2
Curodd Kaymer Stricker 1 ar y blaen
Molinari yn gyfartal â Woods