Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi’r trosiant uchaf yn hanes y corff.
Yn ei hadroddiad blynyddol, mae’r Undeb yn nodi trosiant o £63 miliwn, gyda thraean o’r cyfanswm yn cael ei fuddsoddi ym mhob lefel yng Nghymru ac yn Stadiwm y Mileniwm.
Mae trosiant yr Undeb wedi cynyddu o 44% yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.
Mae dyledion yr Undeb (£19 miliwn) hefyd ar eu hisaf ers 1999, pan gafodd y stadiwm ei chodi.
Noda’r Undeb fod nifer o ffactorau’n gyfrifol am y perfformiad ariannol, gan gynnwys perfformiad y tîm cenedlaethol ar y cae, cynllunio strategol, recriwtio staff rhagorol ac ail-strwythuro adrannau.
Cymru sydd ar y brig o ran perfformiad ariannol yr undebau cenedlaethol.
Mewn datganiad, dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis: “Mae’r canlyniadau yr ydym yn eu cyhoeddi heddiw yn dystiolaeth glir ynghylch sut mae diwygio a glynu wrth strategaethau busnes clir yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf yn talu ar ei ganfed gyda llwyddiant i rygbi yng Nghymru ar y cae ac oddi arno.
“Rydym wedi recriwtio a datblygu pobl wych, wedi diwygio ein systemau a’n strwythurau ac wedi cyflwyno llu o fentrau sydd yn eu lle er mwyn cynnal a datblygu rygbi fel camp genedlaethol Cymru.
“Mae hyn wedi’i drosi’n llwyddiant ariannol a chwaraeon ac mae’n rhoi hyder bod Undeb Rygbi Cymru yn amlwg yn y siâp cywir i ateb heriau’r dyfodol.
“Mae cofnodi trosiant o 44% yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf yn gyflawniad sylweddol y gall Undeb Rygbi Cymru fod yn falch ohono…”
Dywedodd cyn-faswr Cymru, Gareth Davies wrth BBC Radio Cymru: “Yr her nawr i Undeb Rygbi Cymru yw cydweithio gyda’r rhanbarthau nawr i sicrhau llwyddiant drwy’r gêm, ac nid dim ond ar y lefel uchaf.”