Gweilch 30 –15 Munster
Roedd y Gweilch rhy gryf i Munster ar Stadiwm Liberty nos Sadwrn. Enillodd y rhanbarth o Gymru am yr ail gêm yn olynol yn y RaboDirect Pro12 gyda pherfformiad awdurdodol yn erbyn y Gwyddelod.
Sgoriodd Richard Fussell gais yn yr hanner cyntaf a daeth cais cosb i’r tîm cartref yn fuan yn yr ail gyfnod. Ychwanegodd seren y gêm, Richard Hibbard, y trydydd tua’r diwedd a chyfrannodd Dan Biggar bymtheg pwynt gyda pherfformiad unigol safonol iawn yn safle’r maswr.
Hanner Cyntaf
Rhoddodd Biggar fantais gynnar i’r Gweilch gyda dwy gic gosb yn y chwarter awr cyntaf cyn i Fussell sgorio’r cais agoriadol hanner ffordd trwy’r hanner.
Er mai blaenwyr y Gweilch oedd sylfaen y fuddugoliaeth dros yr wyth deg munud, eiliad i’r cefnwyr oedd y cais hwn. Torrodd Andrew Bishop y llinell fantais cyn i Ashley Beck ryddhau Fussell gyda phas dda a llithrodd y cefnwr dros y llinell er gwaethaf ymdrechion dau daclwr.
Ychwanegodd Biggar y trosiad cyn i Munster orffen yr hanner yn well a chau’r bwlch gyda dwy gic gosb o droed Ronan O’Gara.
Ail Hanner
Caeodd O’Gara y bwlch i bedwar pwynt yn gynnar yn yr ail hanner gyda thrydedd cic gosb ond roedd y Gwyddelod lawr i bedwar dyn ar ddeg yn fuan wedyn oherwydd cerdyn melyn Tommy O’Donnell am ddymchwel sgarmes symudol.
Llwyddodd Biggar gyda’r gic gosb ganlynol i adfer y saith pwynt o fantais. Ac roedd y fantais honno wedi ei dyblu yn fuan wedyn wrth i’r dyfarnwr redeg o dan y pyst i ddynodi cais cosb yn dilyn pwysau gan y Gweilch yn y sgrym.
Ymatebodd Munster gyda dwy gic gosb arall, y naill gan O’Gara a’r llall gan ei eilydd, Ian Keatley, ond y Gweilch a gafodd y gair olaf.
Croesodd Hibbard ar y dde yn dilyn bylchiad gwreiddiol Fussell ar y chwith a chwarae da gan Adam Jones yng nghanol y cae. Ychwanegodd Biggar y trosiad i goroni ei berfformiad ef.
Gorffennodd Munster y gêm gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn coch i Damien Varley yn dilyn digwyddiad oddi wrth y bêl ond methodd y Gweilch a manteisio gyda phedwerydd cais a phwynt bonws wrth iddi orffen yn 30-15.
Ond dichon fod ffyddloniaid y Liberty yn fodlon â’r fuddugoliaeth, buddugoliaeth sy’n codi’r Gweilch dros y Dreigiau i’r nawfed safle yn nhabl y Pro12.
Ymateb:
Roedd sgoriwr y trydydd cais a seren y gêm, Richard Hibbard, yn ddigon bodlon ar ddiwedd yn gêm:
“Ry’ ni’n hapus iawn, fe fuon ni’n gweithio ar yr ochr gorfforol ar ôl yr wythnos ddiwethaf ac fe dalodd ar ei ganfed. Fe osododd y blaenwr y platfform ac fe wnaeth y cefnwyr eu gwaith hefyd.”
.
Gweilch
Ceisiau: Richard Fussell 21’, Cais Cosb 54’, Richard Hibbard 68’
Trosiadau: Dan Biggar 22’, 55’, 69’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 12’, 13’, 47’
Munster
Ciciau Cosb: Ronan O’Gara 25’,40’, 42’, 58’, Ian Keatley 66’
Cerdyn Melyn: Tommy O’Donnell 46’
Cerdyn Coch: Damien Varley 73’