Gleision 19–48 Ulster


Cafodd y Gleision eu chwalu’n racs gan Ulster ar Barc yr Arfau yn y RaboDirect Pro12 nos Wener. Hon oedd gêm gyntaf y Gwyddelod ers marwolaeth eu chwaraewr ifanc addawol, Nevin Spence, bythefnos yn ôl.

Dechreuodd y noson gyda munud o dawelwch i Spence ac roedd y gêm ei hun yn deyrnged addas iddo hefyd wrth i Ulster sgorio saith cais mewn gêm agored.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Gleision yn gryf gyda chwe phwynt o droed Jason Tovey yn y deg munud agoriadol. A bu bron iddynt sgorio’r cais cyntaf hefyd ond tarodd Sam Warburton y bêl ymlaen wrth geisio tirio.

Ond daeth Ulster i’r gêm wedi hynny gyda Paddy Jackson yn cau’r bwlch gyda chic gosb cyn i Michael Allen sgorio’r cais agoriadol, 10-6 i’r Gwyddelod yn dilyn trosiad Jackson.

Roedd y Gleision yn ôl o fewn pwynt funudau’n ddiweddarach diolch i drydedd cic gosb Tovey cyn i Ulster daro’n ôl drachefn gydag ail gais wedi hanner awr. Yr wythwr profiadol, Nick Williams, oedd y sgoriwr y tro hwn yn dilyn rhediad da’r mewnwr, Paul Marshall, o fôn y sgrym.

Ychwanegodd Jackson y trosiad i roi wyth pwynt o fantais i’r Gwyddelod ar yr egwyl.

Ail Hanner

Fel yn yr hanner cyntaf, fe ddechreuodd y Gleision yr ail yn dda gyda chic gosb gan yr eilydd faswr, Gareth Davies. Ond unwaith eto, tarodd Ulster yn ôl mewn steil.

Collodd y Gleision y meddiant yn syth o’r ail ddechrau a lledodd Ulster y bêl yn chwim i Tommy Bowe ar yr asgell dde; cyn chwaraewr y Gweilch yn sgorio ar ei ymmddangosiad cyntaf yn ôl yng Nghymru.

Yna, sicrhaodd yr ymwelwyr y pwynt bonws gyda dros 25 munud ar ôl. Jared Payne oedd y sgoriwr y tro hwn – y cefnwr yn curo amddiffyn y Gleision gyda chic a chwrs taclus.

Roedd Ulster ar dân bellach a’r pumed cais oedd y gorau o bosib. Cafwyd rhedeg cryf a dadlwytho gwych gan nifer o’r olwyr cyn i Bowe groesi yn y gornel am ei ail gais.

Rhoddwyd llygedyn o obaith i’r Gleision ar yr awr pan sgoriodd Harry Robinson gais da yn dilyn pas arbennig gan ei gyd asgellwr, Tom James.

Ond dim ond un tîm oedd ynddi mewn gwirionedd ac ychwanegodd y Gwyddelod ddau gais arall yn y chwarter awr olaf, Williams gyda’i ail i ddechrau ac yna Andrew Trimble yn manteisio ar amddiffyn gwarthus y tîm cartref i sgorio’r seithfed.

Gorffennodd Jackson y gêm gyda thri phwynt ar ddeg hefyd wrth iddi orffen yn 48-19 o blaid y Gwyddelod.

Ymateb

Afraid dweud nad oedd Phil Davies, prif hyfforddwr y Gleision yn rhy hapus ar ddiwedd y gêm:

“Roedden nhw’n rownd derfynol Cwpan Heineken llynedd felly maen nhw’n dîm da… ac fe sgorion ni gais da ein hunain yn yr ail hanner ond pan yr ydych chi’n ildio dros ddeugain pwynt adref does neb yn hapus.”

Mae’r Gleision yn disgyn un lle i’r pumed safle yn nhabl y Pro12 o ganlyniad i’r golled drom.

.

Gleision

Cais: Harry Robinson 61’

Trosiad: Gareth Davies 63’

Ciciau Cosb: Jason Tovey 2’, 9’, 19’, Gareth Davies 47’

.

Ulster

Ceisiau: Michael Allen 17’, Nick Williams 29’, 66’, Tommy Bowe 49’, 55’, Jared Payne 53’, Andrew Trimble 77’

Trosiadau: Paddy Jackson 18’, 30’, 54’, 67’, 78’

Cic Gosb: Paddy Jackson 12’