Dreigiau 32–12 Caeredin


Roedd cicwyr y Dreigiau ar dân ar Rodney Parade nos Wener wrth iddynt drechu Caeredin o ugain pwynt yn y RaboDirect Pro12.

Ciciodd Tom Prydie chwe chic gosb ac ychwanegodd Steffan Jones dair gôl adlam wrth i’r Cymry guro Caeredin yn gyfforddus.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd yr hanner yn wael i’r Dreigiau wrth i flaenasgellwr Cymru, Dan Lydiate, orfod gadael y cae gydag anaf wedi dim ond dau funud. Ac aeth pethau o ddrwg i waeth yn fuan wedyn pan sgoriodd asgellwr yr ymwelwyr, Tom Brown, gais cyntaf y gêm – 7-0 i’r Albanwyr yn dilyn trosiad Harry Leonard.

Ond hanner y Dreigiau oedd hi wedi hynny ac roeddynt ar y blaen wedi 25 munud diolch i dair cic gosb lwyddiannus o droed Tom Prydie. Cafodd Caeredin gyfleoedd i daro’n ôl yn syth wedyn ond methodd Leonard gyda dau gynnig at y pyst.

Gorffennodd y ddau dîm yr hanner gyda phedwar dyn ar ddeg wedi i fachwr y Dreigiau, Steve Jones, a chlo’r Albanwyr, Sean Cox, gael eu hanfon i’r gell gosb. A’r rhanbarth o Gymru a lwyddodd i fanteisio ar y lle ychwanegol wrth ychwanegu dwy sgôr hwyr.

Ciciodd Prydie bedwaredd cic gosb i ddechrau cyn i’r prop, Phill Price, sgorio cais yn eiliadau olaf yr hanner i roi deg pwynt o fantais i’r Dreigiau ar yr egwyl.

Ail Hanner

Bu rhaid i Gaeredin chwarae munudau agoriadol yr ail hanner gyda thri dyn ar ddeg wedi i’r blaenasgellwr, Ross Rennie, ymuno â Cox yn y gell gallio. A manteisiodd y Dreigiau’n llawn gyda phumed cic gosb lwyddiannus Prydie.

Ond doedd y maswr, Steffan Jones, ddim am i Prydie gael y sylw i gyd a chyfrannodd yntau gyda thair gôl adlam yn chwarter olaf y gêm.

Ychwanegodd Prydie un gic gosb arall hefyd wrth iddo orffen gyda chyfanswm personol o ddeunaw pwynt.

Fe wnaeth asgellwr pwerus yr Albanwyr, Tim Visser, sgorio cais i’r ymwelwyr ond rhy ychydig rhy hwyr oedd yr ymgais honno wrth i’r tîm cartref ennill o ugain pwynt yn y diwedd.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Dreigiau dros y Gweilch i’r nawfed safle yn nhabl y Pro12, dros nos o leiaf.

.

Dreigiau

Cais: Phil Price 40’

Ciciau Cosb: Tom Prydie 13’, 19’, 25’, 38’, 42’, 66’

Goliau Adlam: Steffan Jones 48’, 62’, 74’

Cerdyn Melyn: Steve Jones 34’

.

Caeredin

Ceisiau: Tom Brown 11’, Tim Visser 60’

Trosiad: Harry Leonard 12’

Cardiau Melyn: Sean Cox 39’, Ross Rennie 41’