Wedi’r fuddugoliaeth felys yn erbyn y Scarlets wythnos yn ôl, fe fydd y Gweilch am barhau gyda’r gwaith da gartref yn erbyn Munster yfory.

Mae’r gêm yn fyw ar S4C ac yn tynnu dwfr i’r dannedd.

Y Gweilch oedd Pencampwyr y gynghrair RaboDirect Pro12 y tymor diwethaf, ond maen nhw wedi colli eu dwy gêm gartref hyd yn hyn y tymor hwn.

Ond nid ydyn nhw erioed wedi colli tair gêm gartref yn olynol ers cychwyn y Gynghrair Geltaidd.

Dim ond un gêm mae Munster wedi ei cholli cyn belled, (19-20) yn erbyn Ulster.

Bydd y Gweilch yn gobeithio y bydd y prop Adam Jones a’r canolwr Ashley Beck yn dychweyld yn ôl i herio Munster yfory.

Fodd bynnag, fe fydd y blaenwr James King (anaf i’w ysgwydd) a’r rheng-ôl Tom Smith (anaf i’w goes) ddim ar gael oherwydd anafiadau.

Yn ogystal, ni fydd yr asgellwr Eli Walker (anaf i’w ysgwydd), y clo James Goode (anaf i’w goes) a’r mewnwr Tom Habberfield (anaf i’w bigwrn) ddim yn holliach i chwarae.

Fe wnaeth y Gweilch gyflawni’r trebl dros Munster y tymor diwethaf, trwy e u curo yn y gynghrair yn Stadiwm Liberty ac i ffwrdd yn Thomond Park ac yn ogystal eu curo yn y gemau ail gyfle yn y Liberty.

Bydd y gêm yn fyw ar S4C.