Gogzilla o'r North
Mae hyfforddwr y Scarlets wedi newid ei dîm yn sylweddol ar gyfer y gêm gartref yn erbyn Trevisso yfory, gan roi hoe i’r sêr George North a Scott Williams.
Bydd chwe newid i dîm Simon Easterby o’r wythnos diwethaf, gyda nifer o’r chwaraewyr yn newid safleoedd.
Y cefnwr ifanc Jordan Williams sy’n dechrau yn safle’r cefnwr a Liam Williams yn symud i’r asgell. Bydd Gareth Maule yn dechrau yng nghanol y cae gyda Jon Davies, a Gareth Davies fydd yn safle’r mewnwr.
Matthew Rees sy’n dechrau yn safle’r bachwr a Sione Timani yn ymuno â George Earle yn yr ail-reng. Bydd Jonathan Edwards yn dychwelyd i safle’r blaen asgellwr â Josh Turnbull, lle bydd Rob McCusker yn safle’r wythwr.
‘‘Mae yna rhai newidiadau i sicrhau bod pawb yn y garfan yn cael cyfle i chwarae cyn cystadleuaeth Ewrop, felly bydd George North a Scott Williams yn cael rhywfaint o amser i ffwrdd y penwythns yma,’’ meddai Simon Easterby, rheolwr y Scarlets.
Tîm y Scarlets
Yr olwyr – Jordan Williams, Liam Williams, Gareth Maule, Jon Davies, Andy Fenby, Rhys Priestland a Gareth Davies.
Y blaenwyr – Phil John, Matthew Rees, Deacon Manu, Sione Timani, George Earle, Josh Turnbull, Johnathan Edwards a Rob McCusker (Capten).
Eilyddion – Ken Owens, Peter Edwards, Samson Lee, Aaron Shingler, Kieran Murphy, Tavis Knoyle, Adam Warren a Kristian Phillips.