Michael Laudrup ar y dde
Mae rheolwr Abertawe wedi rhybuddio’i dîm i anghofio am y gêm gwpan yn erbyn Lerpwl fis nesa’, a chanolbwyntio ar yr ornest yn erbyn Stoke yfory.
Gyda Brendan Rodgers a Joe Allen bellach yn Anfield, mae llawer o son wedi bod am y gêm yn erbyn cochion Glannau Merswy.
Ond mae Michael Laudrup am i’w chwaraewyr ganolbwyntio’n llwyr ar ymweliad Stoke City â’r Liberty, gyda’r Elyrch ar rediad gwael ac wedi colli tair gêm yn olynol.
‘‘Nid wyf eisiau siarad am Lerwpl yn awr, rydym yn chwarae Stoke, fe fydd hi’n gêm anodd i ni,’’ meddai cyn gêm yfroy.
Ac mae golwr yr Elyrch yn disgwyl her a hanner yfory.
‘‘Mae’n debyg bod gan Stoke y garfan gryfaf a’r talaf yn yr Uwch Gynghrair, mi fydd hi’n anodd ond does dim yn amhosibl,’’ meddai Michael Vorm.
Bu Pablo Hernandez, Ashley Williams a Jonathan de Guzman yn dioddef o anafiadau drwy’r wythnos, ond mae Laudrup yn siwr y bydd y triawd yn cael eu cynnwys yn y garfan ar gyfer y gêm.
Bydd yr Elyrch yn parhau heb Kemy Agustien, Kyle Bartley a Neil Taylor. Ond daw Chico Flores a Nathan Dyer yn ôl eu waharddiadau.