Tommy Bowe
Mae hyfforddwr y Gleision wedi gofyn am gêm ragorol heno er cof am Nevin Spence, canolwr Ulster a syrthiodd fewn i danc piswail ar fferm ei deulu.
‘‘Roedd yn chwaraewr arbennig, ac yn amlwg y bydd pawb yn ei golli,’’ meddai Phil Davies.
Dyw’r Gleision ond wedi ennill dwy o bump o’u gemau cartref.
Heno bydd y clo rhyngwladol Bradley Davies yn chwarae dros y rhanbarth am y canfed tro.
Daw’r Capten Andries Pretorius yn ôl i safle’r wythwr a daw Robin Copeland i safle’r blaen asgellwr ar yr ochr dywyll. Yn ogystal fe fydd Jason Tovey yn dechrau am y tro cyntaf yng nghrys y Gleision.
Daw Harry Robinson ar yr asgell yn lle Alex Cuthbert sy’n dioddef anaf. Hefyd bydd Tommy Bowe yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i Ulster ers iddo ailymuno â’r clwb o’r Gweilch.
Daw James Down i gymryd lle Lou Reed yn safle’r clo, a’r prop Taufa’ao Filise fydd yn y rheng-flaen yn lle Benoit Bourrust.
Bydd ymweliad y Gwyddelod â Chaerdydd yn fyw ar Scrum V BBC 2.
Tîm y Gleision
Yr olwyr – Dan Fish, Harry Robinson, Dafydd Hewitt, Jamie Roberts, Tom James, Jason Tovey, Lloyd Williams.
Y blaenwyr – Nathan Trevett, Andi Kyriacou, Taufa’ao Filise, Bradley Davies, James Down, Robin Copeland, Andries Pretorius (capten), Sam Warburton.
Eilyddion – Rhys Williams, Campese Ma’afu, Scott Andrews, Lou Reed, Gareth Davies, Rory Watts-Jones, Rob Lewis a Tom Williams.