Gavin Henson
Mae Gavin Henson wedi gwella yn gynt na’r disgwyl ac mae Lyn Jones, rheolwr y Cymry Llundain, yn gobeithio y bydd yn chwarae ganol mis nesaf.

Fe dorrodd Henson asgwrn yn ei foch mewn gêm gyfeillgar yn erbyn y Sgarlets mis diwethaf, lle gafodd y chwaraewr 30 oed ei gludo i ysbyty Treforys lle cafodd lawdriniaeth.

Ar ôl cael ei daro gan Deacon Manu, roedd hi’n debyg na fyddai Henson yn chwarae am o leiaf chew wythnos.