Jonathan Davies - pryder
Mae yna amheuon am ffitrwydd canolwr Cymru, Jonathan Davies, cyn y gêm yn erbyn yr Eidal yn Rhufain y penwythnos nesaf.

Fe anafodd chwaraewr y Scarlets llinyn y gar yn ystod buddugoliaeth 24-6 Cymru yn erbyn yr Alban ym Murrayfield yr wythnos ddiwethaf.

Fe fydd tîm meddygol Cymru yn cadw llygad ar anaf Davies cyn i Warren Gatland enwi ei garfan i wynebu’r Eidalwyr.

Os bydd canolwr y Scarlet syn colli’r gêm, fe allai greu penbleth i’r tîm hyfforddi.

Does dim llawer o ddewis gan Gymru yn y canol gan bod Tom Shanklin ac Andewr Bishop eisoes wedi eu hanafu.

Un posibilrwydd fyddai symud James Hook o safle’r maswr i’r canol gyda Stephen Jones yn dychwelyd i’r tîm yn gwisgo’r crys rhif deg.

Ond fe gafodd Hook gêm addawol yn rhif 10 yn erbyn yr Albanwyr ac fe fydd tîm hyfforddi Cymru yn awyddus i beidio â gwneud llawer o newidiadau.