Aled Brew
Aironi 3 Dreigiau 18

Mae’r Dreigiau wedi codi i’r seithfed safle yng Nghynghrair Magners ar ôl curo Aironi 18-3 yn  Stadio Luigi Zaffanella.

Roedd yr ymwelwyr yn arwain 6-0 ar yr egwyl ar ôl i Jason Tovey lwyddo gyda dwy gic gosb.

Er bod yr Eidalwyr wedi taro’n ôl gyda chic gosb gan Tito Tebaldi fe sgoriodd Tom Riley ac Aled Brew gais yr un i sicrhau’r dwbl tros Aironi, sydd ar waelod y tabl ac yn aros am eu buddugoliaeth gynta’ yn y Cynghrair.

Dyma’r bedwaredd fuddugoliaeth yn olynol i’r Dreigiau ers i’w cyn hyfforddwr, Paul Turner, fynd.

Cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Rowland Phillips, yw hyfforddwr y tîm o’r Eidal.