Cais i Gough - o'r diwedd
Benetton Treviso 18 Y Gweilch 34
Roedd yr hyfforddwr, Sean Holley, wrth ei fodd gyda pherfformiad y Gweilch wrth i dîm gwannach na’r arfer sgubo Benetton Treviso o’r neilltu.
Roedd yna dri chais i’r asgellwr o’r Alban, Nikki Walker, a chais cynta’ erioed tros y Gweilch i’r ail reng, Ian Gough.
Gallu’r tîm yn ymosod oedd wedi plesio Holley fwya’ wrth iddyn nhw godi i’r trydydd safle, uwchben Leinster a’r Scarlets.
Roedd hi’n 17-6 ar yr hanner trwy un cais yr un gan Walker, Beck a Gough – ei gynta’ ar ôl mwy na thair blynedd yn Stadiwm y Liberty – ac un trosiad gan Biggar.
Yr ail hanner
Fe barhaodd yr ymosod wedi’r egwyl gyda Walker yn cael dwy arall – ei ail hatric y tymor hwn.
Wrth i’r gêm ddirywio oherwydd eilyddio, fe sgoriodd yr Eidalwyr ddau gais trwy Tobie Botes, un ohonyn nhw’n golygu rhedeg hyd y cae. Ef oedd wedi sgorio ciciau cosb Benetton yn yr hanner cynta’ hefyd.
Roedd Holley wedyn yn canmol y dechrau da a gafodd y Gweilch a’u hagwedd ymosodol – “roedd yn berfformiad ardderchog gan y tîm,” meddai.
Fe roddodd ganmoliaeth arbennig i’r ail reng, Ian Evans.