Martyn Williams - y bas allweddol
Gleision 11 Leinster 3

Fe fu bron i’r Gleision wireddu ofnau eu hyfforddwr wrth guro Leinster o wyth pwynt a chodi i’r ail safle yng Nghynghrair Magners.

Fe fyddai hynny’n ddigon i roi gêm gartref iddyn nhw yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth gwpan ar ddiwedd y tymor.

Dim ond 8-3 oedd hi gyda deg munud ar ôl ac roedd Dai Young wedi rhybuddio cyn y gêm am y peryg o fethu â chymryd cyfleoedd a cholli yn y munudau ola’.

Roedd dau o’r cyfleoedd hynny wedi dod yn gynnar wrth i’r asgellwr Richard Mustoe fynd yn agos ddwywaith.

Ond ar ôl i Ceri Sweeney gael cic gosb fe ddaeth cais hefyd, diolch i ddwylo cyflym y blaenasgellwr Martyn Williams, yn dal a phasio mewn un symudiad, i roi cais i’r cefnwr deche Dan Fish.

Dim ond 8-3 oedd hi ar yr hanner ac, er gwaetha’r prinder sgorio ar ôl hynny, roedd hi’n gêm ddeniadol gyda Chaerdydd i ddechrau’n gwrthsefyll pwysau gan Leinster ac wedyn yn dod yn agos.

Fe groesodd Martyn Williams ond fod y bas ymlaen ac yna fe sgoriodd Ceri Sweeney gic gosb arall i selio’r fuddugoliaeth.