Y ddau dîm ar y gwaelod a gipiodd y sylw ar ddydd Sadwrn cynta’ ail hanner Uwch Gynghrair Cymru.

Ar ôl bod bedair gôl ar y blaen gyda hanner awr ar ôl, fe lwyddodd Y Drenewydd i ildio’r cyfan a dod o fewn dim i golli’r holl bwyntiau yn erbyn Hwlffordd.

Roedd Robbie Millington wedi cael dwy a Matthew Cook a Steve Jones wedi cael un yr un wrth i’r Robins fynd 4-0 ar y blaen ar ôl 57 munud.

Ond roedd ymddangosiad dau eilydd yn allweddol wrth i Hwlffordd daro’n  ôl. Fe gafodd Lee Hudgell a Jaymes Dixon gôl yr un i ychwanegu at ddwy gaf Jack Christopher.

Mae’r canlyniad yn golygu bod y ddau glwb yn dal i fod ynghlwm ar waelod hanner isa’r tabl ac yn ymladd am eu heinioes.

Y gweddill

Fe gollodd Caerfyrddin rywfaint o dir hefyd wrth golli o 1-2 i Airbus ar y Waun Dew, gydag Airbus yn sgorio’r gôl allweddol trwy Gavin Cadwallader gyda hanner awr yn weddill.

Yn hanner ucha’r tabl, roedd yna gêm gyfartal arall 1-1 rhwng y Seintiau Newydd a Phort Talbot. Phil Baker yn sgorio i’r Seintiau ar yr egwyl a Paul Harrison yn sgorio yn ei rwyd ei hun i ddod â’r Dynion Dur yn ôl iddi.

Mae’n golygu bod y Seintiau bum pwynt y tu ôl i Fangor, sy’n chwarae Prestatyn brynhawn Sul.