Dean Saunders
Wrecsam 2 Gateshead 7

Doedd rheolwr Wrecsam, Dean Saunders, ddim yn gallu coelio’r canlyniad wrth i Wrecsam gael eu chwalu gartre’, a hynny gan glwb sydd yng nghanol cynghrair Blue Square.

Fe dreuliodd amser hir yn y stafell newid gyda’r chwaraewyr wedyn a dod allan i ddweud nad oedd wedi rhagweld cweir o’r fath – y gwaetha’ gartre’ yn hanes y clwb.

“Rhaid i fi obeithio mai digwyddiad un-tro oedd hwn,” meddai. “Cyn hyn tair oedd y mwya’ yr oedden ni wedi ei ildio yn fy nghyfnod i yn y Cae Ras.”

Fe fydd rhaid iddo geisio codi’r chwaraewyr ar gyfer gêm fawr nos Fawrth yn erbyn Wimbledon sydd ar y brig.

Roedd Saunders yn rhoi’r bai ar ei amddiffynwyr a’r gôl-geidwad, gan ddweud bod y blaenwyr a’r canol cae wedi perfformio’n weddol.

Y sgorio

Roedd Gateshead wedi mynd ar y blaen bron cyn i bethau ddechrau’n iawn, gyda gôl ar ôl dim ond 20 eiliad.

Roedd pethau’n edrych yn iawn wedi 12 munud, pan sgoriodd Andy Morrell i wneud pethau’n gyfartal ond, erbyn hanner amser, roedd hi’n 5-1 i’r ymwelwyr.

Fe ddaeth yr ail hanner a gôl arall i dîm y Cae Ras wedi 20 munud  diolch i Jamie Tolley, ondwyth munud yn ddiweddarach roedd Jon Shaw wedi taro chweched i Gateshead a chael ei seithfed a’i drydedd ei hun bum munud yn ddiweddarach.