Robbie Earnshaw - dim dathlu
Cyn-chwaraewr Caerdydd, Robbie Earnshaw, a sgoriodd y gôl a gurodd Gaerdydd a symud Nottingham Forest yn uwch na nhw i’r ail le yn y Bencampwriaeth.
Profiad “chwerw-felys” oedd sgorio, meddai Earnshaw wedyn, ar ôl gwrthod dathlu ar y cae: “Rhaid i fi wneud y busnes ar y cae a chario ymlaen wedyn.”
Fe gafodd Caerdydd sawl cyfle cyn i Nottingham Forest fynd ar y blaen o gic gornel a’r amddiffynnwr, Wes Morgan, yn codi’n uwch nag amddiffynwyr Caerdydd.
Pan lwyddodd tim y brifddinas i sgorio ar ôl ychydig tros awr – trwy gic o’r smotyn gan Peter Whittingham, byr iawn oedd y dathlu.
O fewn tair munud, roedd Earnshaw wedi taro gan wthio Caerdydd i lawr i’r pedwerydd safle a chodi Forest yn ail.