Scott Sinclair - sgorio eto
Abertawe 3 Doncaster 0
Fe lwyddodd Abertawe i godi uwchben Caerdydd i fynd yn drydydd yn y Bencampwriaeth wrth guro Doncaster yn gyfforddus.
Maen nhw bellach yn gyfartal ar bwyntiau gyda Nottinhgam Forest sydd yn ail. Ond dim ond pum pwynt sydd rhyngddyn nhw a’r clwb sy’n seithfed, Leicester City.
Roedd hon yn fuddugoliaeth fawr, meddai’r rheolwr, Brendan Rodgers. “Mae hi mor dynn, fe allai’r tri phwynt a’r tair gôl fod yn dyngedfennol.”
Bygwth o’r dechrau
Roedd bygythiad Abertawe’n amlwg o’r dechrau gyda chyfle i Stephen Dobbie wedi dwy funud ond fe ddaeth y gôl gynta’ ymhen tair munud wedyn wrth i Scott Sinclair sgorio’i 19eg y tymor hwn.
Roedd Abertawe wedi cael sawl cyfle arall, yn aml trwy basio Angel Rangel, cyn i’r capten Ashley Williams benio’r ail bum munud cyn yr egwyl.
Yr ail hanner
Abertawe oedd yn rheoli yn yr ail hannner hefyd ond roedd amddiffyn Doncaster yn benderfynol ac fe gawson nhw un cyfle da i sgorio’u hunain.
Roedd hynny’n ddigon o rybudd i Abertawe, ac fe selion nhw’r fuddugoliaeth gyda gôl ddeheuig gan Luke Moore wedi symudiad da. Dyna’i gôl gynta’ ers dod i’r Liberty.
Fe allai’r Elyrch fod wedi cael pedwaredd ond bod Sullivan yn y gôl i Doncaster wedi arbed yn dda – fel y gwnaeth yn gyson trwy’r prynhawn.