Tommy Bowe
Fe fydd yr asgellwr Tommy Bowe yn teithio gyda’r Gweilch i Benetton Treviso wrth iddyn nhw geisio codi uwchben y Scarlets ac, efallai, y Gleision yng Nghynghrair Magners.
Mae’r asgellwr wedi colli cyfnod hir oherwydd anaf ac fe fydd asgellwr yr Alban – un o’r ychydig i berfformio’n dda yn erbyn Cymru – yn ôl ar yr ochr arall.
Un arall sy’n gobeithio creu argraff yw’r ail reng, Ian Evans, sydd wedi dweud ei fod yn gobeithio ennill ei le yn nhîm Cymru yng Nghwpan y Byd.
Mae’r Gweilch wedi cael rhediad da o fuddugoliaethau ond fe fydd yr Eidalwyr ar i fyny hefyd ar ôl curo’r arweinwyr, Munster, o un pwynt gartre’ y penwythnos diwetha’.
Mae’r Ospreys o fewn tri phwynt i’r Scarlets a gollodd neithiwr ac o fewn dau i’r Gleision sy’n chwarae’n hwyrach heno. Pe bai’r canlyniadau’n mynd o’u plaid, fe allen nhw fod ar y brig ymhlith y Cymry.
Mae Benetton ar hyn o bryd yng nghanol y tabl.
Y Gweilch
Olwyr: 15 Richard Fussell; 14 Tommy Bowe, 13 Sonny Parker, 12 Ashley Beck, 11 Nikki Walker; 10 Dan Biggar, 9 Rhys Webb
Blaenwyr: 1 Duncan Jones, 2 Huw Bennett, 3 Cai Griffiths; 4 Ian Gough, 5 Ian Evans; 6 Tom Smith, 7 Justin Tipuric (Capt), 8 Jerry Collins
Eilyddion: 16 Mefin Davies, 17 Ryan Bevington, 18 Craig Cross, 19 Andy Lloyd, 20 James King, 21 Jamie Nutbrown, 22 Dai Flanagan, 23 Tom Isaacs