Y Cae Ras
Fe wnaeth Casnewydd ffafr fawr â’u cyd Gymry, Wrecsam, wrth gipio pwynt ar y funud ola’ yn erbyn Luton Town.
Ond fe allai fod wedi bod yn well fyth; er eu bod wedi cael cic gosb ar y diwedd yn deg, roedd cefnogwyr Casnewydd yn teimlo y dylen nhw fod wedi cael dwy arall.
Fe fydd Luton yn teimlo, er hynny, eu bod wedi colli dau bwynt ar ôl bod ar y blaen oddi ar y 18fed munud.
Mae’n golygu bod Wrecsam o fewn dau bwynt iddyn nhw yn y tabl – Luton yn drydydd a Wrecsam yn bedwerydd.
Fe allai Wrecsam fynd o’u blaenau nhw y prynhawn yma os llwyddan nhw i guro Gateshead ar y Cae Ras. Mae’r tîm o Tyneside tua chanol y tabl.
Roedd y pwynt yn allweddol i gadw Casnewydd hefyd o fewn cyrraedd i’r llefydd ail gyfle yn y Blue Square. Maen nhw bellach yn seithfed, chwe phwynt y tu ôl i’r chweched ond gyda dwy gêm ychwanegol i’w chwarae.