Y Gweilch 13 – 16 Ulster
Roedd cais gan Paul Marshall yn ddigon i Ulster gipio buddugoliaeth yn erbyn y Gweilch yn Abertawe yng nghystadleuaeth y Pro12.
Roedd y Gweilch wedi bod ar y blaen ers cais yr asgellwr Hanno Dirksen ar ôl 24 munud. Ciciodd Matthew Morgan wyth pwynt i’r tîm.
Ond chwalwyd eu gobeithio gan gais Marshall, a ddilynodd dwy gic cosb gan Niall O’Connor ac un gan Paddy Jackson.
Ychwanegodd hwnnw’r trosiad er mwyn selio’r fuddugoliaeth.
Mae gan y Gweilch ddau bwynt bonws ar ôl colli 12 – 6 yn erbyn Trevisio yn eu gêm gyntaf.