John Yapp yn ol (Gwefan y Gleision)
Mae hyfforddwr y Gleision wedi’u rhybuddio i geisio gwneud yn siŵr o ragor o gemau yn hytrach na cholli yn y munudau ola’.
Mae’r tîm, sy’n bedwerydd yng Nghynghrair Magners yn wynebu gêm bwysig heno yn erbyn Leinster sy’n ail.
O chwaraewyr rhyngwladol Cymru, dim ond y prop John Yapp sy’n dod yn ôl i mewn ond fe fydd maswr yr Alban, Dan Parks, ar y fainc hefyd ar ôl ei gêm drychinebus yn erbyn Cymru.
“Mewn sawl gêm y tymor hwn rydyn ni wedi bod yn well tîm o dipyn ac wedi bod yn rheoli am y rhan fwya’ o’r gêm ond, gyda dim ond deng munud ar ôl, yn ddim ond pum pwynt ar y blaen,” meddai hyfforddwr y Gleision, Dai Young.
“Felly, fe fyddai un sgôr, un trosgais yn golygu colli gêm yn erbyn tîm yr ydyn ni wedi eu meistroli’n llwyr. Pan gewch chi dri neu bedwar cyfle, mae’n rhaid i chi sgorio.”
Y Gleision
Olwyr: 15 Dan Fish 14 Richard Mustoe 13 Gavin Evans 12 Dafydd Hewitt 11 Tom James 10 Ceri Sweeney 9 Tom Slater
Blaenwyr: 8 Xavier Rush 7 Martyn Williams 6 Andries Pretorius 5 Paul Tito (c) 4 Deiniol Jones 3 Fau Filise 2 Gareth Williams 1 John Yapp
Eilyddion: 16 Rhys Williams 17 Sam Hobbs 18 Scott Andrews 19 Ben White 20 Ma’ama Molitika 21 Rhys Downes 22 Dan Parks 23 James Loxton