Y llygad ar Robbie Earnshaw
Fe fydd Caerdydd yn mynd i Nottingham y prynhawn yma gyda’r bwriad o geisio ennill, meddai’r rheolwr, Dave Jones.
Mae’n ddechrau ar bedwar diwrnod a allai benderfynu tynged yr Adar Gleision yn y Bencampwriaeth.
Ar ôl wynebu Forest, sy’n bedwerydd, fe fyddan nhw’n croesawu Leicester City i Gaerdydd nos Fawrth – mae’r tîm o Gaerlŷr yn seithfed ac yn ennill tir yn gyflym ar weddill yr arweinwyr.
Ymosod
Mae Dave Jones wedi addo perfformiad ymosodol – os bydd Caerdydd, sy’n ail, yn ennill, fe fyddan nhw’n mynd o fewn dau bwynt i QPR ar y brig ac yn agor bwlch o bump rhyngddyn nhw a Forest, sydd wedi chwarae un gêm yn llai.
Fe lwyddodd Forest i guro Caerdydd yn y brifddinas yn gynt yn y tymor ond mae un o’r sgorwyr bryd hynny, Dexter Blackstock, yn un o bedwar chwaraewr amlwg sydd ar goll o dîm Billy Davis.
Mae yntau wedi addo wrth gefnogwyr Forest y bydd hwn yn dymor cyffrous hyd at yr eiliadau ola’ ac roedd yn pwysleisio mai dim ond pum gwaith y maen nhw wedi colli gartre’ mewn dau dymor a hanner.
Fe fydd diddordeb arbennig i weld a fydd cyn-arwr Caerdydd, Robbie Earnshaw, yn chwarae i Forest … ac yn sgorio.