Bathodynnau Pontypridd a Chastell Nedd
Fe fydd dau o glybiau mawr Cymru’n wynebu’i gilydd yn nhrydedd rownd Cwpan SWALEC, a honno’n adlewyrchiad hefyd o’u brwydr nhw ar frig yr Uwch Adran.

Yn ôl yr Undeb Rygbi, y gêm rhwng Castell Nedd a Phontypridd yw gornest fawr y rownd fory, gyda Phonty’n ceisio dod yn ôl ar ôl colli’n annisgwyl o 3-6 yng nghartre’ Quins Caerfyrddin.

Mae Castell Nedd bellach un pwynt y tu ôl iddyn nhw ac maen nhw wedi chwarae un gêm yn llai.

Mae yna gyfle hefyd i un o dimau newydd yr Uwch Adran fynd ymhellach. Ar ôl curo prif enillwyr y cwpan, Llanelli, yn y rownd ddiwetha’, mae Tonmawr yn wynebu Pontypŵl sydd un lle o danyn nhw yn y gynghrair.

Mae disgwyl y bydd Abertawe’n ddigon cry’ i guro Bedwas gartref tra bod Crwydriaid Morgannwg yn gobeithio cael egwyl rhag eu tymor gwael yn y gynghrair wrth groesawu Merthyr o Adran Un y Dwyrain.

Ond fe fydd Caerdydd yn wynebu her anodd wrth groesawu tîm arall o adran is. Mae Pen-y-bont ymhell ar y blaen yn Adran Un y Gorllewin.

Gêm arall i dynnu dŵr o’r dannedd yw darbi Sir Gâr rhwng Llanymddyfri a’r Cwins.