Mark Williams
Mae Mark Williams wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf ym Mhencampwriaeth Snwcer Agored Cymru yng Nghasnewydd.
Roedd y Cymro, sy’n rif dau yn rhestr detholion y byd, yn fuddugol o 4 ffrâm i ddim yn erbyn Jamie Cope yn eu gêm ail rownd y prynhawn yma.
Mae’r cyn pencampwr byd yn edrych yn hyderus dros ben ar ôl ennill Pencampwriaeth Meistri’r Almaen yr wythnos diwethaf – pe bai’n ennill yng Nghasnewydd, ef fyddai’r chwaraewr cyntaf i ennill dau dwrnament uchel-radd gefn wrth gefn ers i Ronnie O’Sullivan wneud hynny yn 2003.
Roedd y ffrâm gyntaf yn erbyn Cope yn un flêr, ond enillodd Williams 70-34 yn y diwedd.
Roedd yr ail yn llawer mwy cyfforddus iddo gyda rhediad o 108 i arwain o 2 ffrâm i 0.
Cafodd Cope gyfle da i gipio’r drydedd ffrâm wedi i Williams fethu’r brown wrth glirio, ond methodd y Sais yntau’r ddu a’i gadael ar y boced i Williams gipio’r ffrâm.
Y Cymro reolodd y ffrâm olaf, gan ennill o 83-0.
Roedd Williams yn hapus â’r fuddugoliaeth ac yn credu nad oedd 4-0 yn adlewyrchiad teg o edrych nôl ar y gêm.
“Bydd yn edrych fel buddugoliaeth rhwydd ar bapur, ond gallai Jamie fod wedi ennill cwpl ohonyn nhw. Doedd hi ddim yn gêm 4-0” meddai.
Bydd Williams nawr yn herio enillydd gêm Stephen Hendry a Stephen Maguire sy’n cael ei chwarae am 7:00 heno (nos Iau).