Shane Williams
Mae’r posibilrwydd y bydd Shane Williams yn chwarae ei rygbi yn Ffrainc y tymor nesaf yn tyfu.
Fe godwyd amheuaeth ynglŷn â dyfodol Williams gyda rhanbarth y Gweilch ynghynt yn yr wythnos. Mae cytundeb presennol yr asgellwr bach yn dod i ben ar ddiwedd y tymor, ac fy gyhoeddodd ddechrau’r wythnos ei fod wedi gohirio trafodaeth ynglŷn â chytundeb newydd tan ar ôl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Roedd disgwyl i’r cyhoeddiad ddal sylw rhai o dimau mawrion Ewrop, a heddiw mae awgrym ei fod ar frig rhestr siopa un o brif glybiau Ffrainc, Clermont Auvergne.
Enwau mawr eraill yn gadael
Petai Williams yn penderfynu gadael am Ffrainc byddai’n ergyd pellach i’r Gweilch, Undeb Rygbi Cymru ac i Warren Gatland sydd wedi dweud yn glir ei fod am weld ei chwaraewyr yn chwarae i ranbarthau Cymreig.
Yn gynharach yn yr wythnos fe gyhoeddwyd bod cefnwr Cymru a’r Gweilch, Lee Byrne yn symud i Clermont dros yr haf.
Cyn hynny roedd y maswr, James Hook wedi penderfynu gadael y Gweilch am Perpignan yn Ffrainc tra bod Gavin Henson hefyd yn symud i’r clwb Ffrengig, Toulon.
Mae yna adroddiadau eraill sy’n cysylltu ail reng y Gweilch gyda chlwb arall yn Ffrainc, Tolouse, tra bod y prop Craig Mitchell yn darged i’r Exeter Chiefs yn Uwch Gynghrair Aviva Lloegr.
“Dim cynnig concrit”
“Dwi wedi gohirio trafodaethau ynglŷn â’m dyfodol tan ar ôl y Chwe Gwlad gan fod rhaid i mi ganolbwyntio ar Gymru am y tro” meddai Shane Williams ddydd Llun.
“Dwi wedi bod yn siarad â’r Gweilch, ond does gen i ddim cynnig concrit ganddyn nhw ar hyn o bryd” ychwanegodd.
“Bydd rhaid i ni weld beth sy’n datblygu ond mae ‘na ddiddordeb o Ffrainc” meddai. “Dwi ddim eisiau dweud lle’n union mae’r diddordeb…ond mae’n rywbeth y bydd rhaid i mi ei ystyried o bosib.”