Fe f
Gary Speed
ydd rheolwr Cymru, Gary Speed, yn cael clywed heddiw a yw am golli gwasanaeth ei gefnwr, Sam Ricketts, am gyfnod.

Fe gafodd yr amddiffynnwr ei anafu wrth i’w glwb, Bolton Wanderers, guro Wigan yng Nghwpan FA Lloegr neithiwr.

Fe ddisgynnodd yn ei flwch ei hun mewn digwyddiad diniwed yr olwg ond mae yna amheuaeth ei fod wedi gwneud niwed i’w Achilles.

Yn ôl rheolwr Bolton, Owen Coyle, fe fydd rhagor o wybodaeth ar ôl iddo gael archwiliad llawn yn ddiweddarach heddiw.

“Mae wedi bod yn ardderchog i ni ers dod i mewn i’r tîm,” meddai am y chwaraewr 29 oed sy’n chwarae i Gymru oherwydd ei dad Cymreig.

Mae Cymru’n chwarae yn erbyn Lloegr yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2012 ar 26 Mawrth.