Shane Williams
Mae asgellwr Lloegr, Chris Ashton a sgoriodd bedwar cais yn erbyn yr Eidal ddydd Sadwrn  wedi dweud ei fod am ddilyn yn ôl traed ei arwr mawr, Shane Williams.

Sgoriodd bedwar cais yn y buddugoliaeth 59 – 13 yn erbyn yr Eidalwyr gan ddod yn gyfartal â’r record.

Ond dywedodd Ashton nad oes ganddo unrhyw ddiddordeb mewn torri unrhyw record, ac mai efelychu Shane Williams yw ei uchelgais.

Record Chwe Gwlad

Y ffaith fwyaf nodedig am gampau’r Sais yw bod ei bedwar cais ddydd Sadwrn, ar ben y ddau y sgoriodd yn erbyn Cymru’r wythnos diwethaf, yn golygu ei fod eisoes yn gyfartal â’r record am y nifer fwyaf o geisiau i un chwaraewr ym mencampwriaeth Chwe Gwlad – a hynny gyda thair gêm yn weddill.

Yr unig ddau chwaraewr i sgorio chwe chais mewn un bencampwriaeth yn y gorffennol yw Will Greenwood o Loegr yn 2001, a’r Cymro Shane Williams yn 2008.

Ef hefyd yw’r person cyntaf i sgorio pedwar cais mewn un gêm o’r Bencampwriaeth Chwe Gwlad, neu Bum Gwlad cyn hynny, ers i Sais arall, Ronnie Poluton wneud hynny yn erbyn Ffrainc nôl ym 1914.

Shane yn arwr

“Dwi ddim yn meddwl am dorri unrhyw record a dwi ddim yn caniatáu fy hun i feddwl am yr hyn allai ddigwydd,” meddai Ashton.

“Os ydach chi’n dechrau gwneud hynny fe fydd pethau’n dechrau mynd o chwith. Y diwrnod fyddai’n gwneud hynny fydd y diwrnod y byddai’n stopio sgorio.”

Roedd Ashton eisoes wedi canmol Shane Williams cyn iddo ei herio’r wythnos flaenorol, ond wrth ymateb i’w berfformiad yn erbyn yr Eidalwyr fe wnaeth yn glir mai Williams oedd ei arwr ar y maes rygbi.

“Mae Shane wedi bod yn gwneud hyn ers amser hir,” meddai Ashton. “Dwi ond yn trio ei efelychu o, ac os alla’i gyflawni hanner yr hyn mae o wedi’i wneud, fe fyddai’n ddyn hapus.”

Mae Ashton bellach wedi sgorio 9 cais mewn 9 gêm i Loegr, tra bod ei ddau gais yn erbyn yr Albanwyr wedi codi cyfanswm Shane Williams i 53 cais mewn 77 gêm i Gymru.