Elen Evans (O wefan Undeb Rygbi Cymru)
Yr Alban 12 – 41 Cymru
Fe gafodd tîm rygbi merched Cymru gystal penwythnos a’r dynion wrth iddyn nhw guro’r Alban yn gyfforddus yn Burnbrae ddoe.
Y ganolwraig, Elen Evans oedd seren y sioe wrth iddi sgorio tri chais yn yr hanner cyntaf wrth i osod y sail ar gyfer buddugoliaeth gyntaf Cymru o’r Bencampwriaeth eleni.
Roedd Cymru’n dechrau adeiladu blaenoriaeth erbyn yr ugeinfed funud wedi i Aimee Young gicio dwy gic gosb yn llwyddiannus.
Yn fuan wedyn cafodd prop yr Alban, Beth Dickens ei gyrru i’r gell callio a gyda’r fantais o un chwaraewr ychwanegol fe sgoriodd Evans y cyntaf o’i cheisiau wedi gwaith adeiladu da gan Catrin Edwards a Jenny Davies.
Collodd Yr Alban eu hail chwaraewr i’r gell callio wrth i Louise Dalgliesh gael ei chosbi o ganlyniad i droseddu parhaus gan y tîm cartref.
Doedd hi ddim yn hir cyn bod Evans yn sgorio ei hail gais gan ruthro 25m i durio, gan gwblhau ei hat trick yn eiliadau olaf yr hanner.
Gyda’r sgôr yn 26 – 0 ar yr hanner, doedd di ffordd nôl i’r Albanwyr, ac ychwanegodd yr asgellwyr Charlie Murray a Caryl James oruchafiaeth y Cymry gyda chais yr un.
Er tegwch i ddyfalbarhad yr Albanwyr, llwyddodd yr eilydd Tracey Balmer i groesi’r llinell gais gyda Caroline Collie yn trosi.
Roedd munudau olaf y gêm yn rhai llawn gweithgarwch. Yn gyntaf, cafodd Caryl James ei gyrru i’r gell callio, a sgoriodd yr Alban eu hail gais tra’i bod yno – Lindsay Wheeler yn croesi. Ond, Cymru gafodd y gair olaf wrth i’r eilydd Kerin Lake sgorio cais i goroni ei gêm gyntaf dros ei gwlad.