Mae Undeb Rygbi Cymru wedi amddiffyn ei benderfyniad i rwystro Clwb Rygbi Pontypwl rhag chwarae yn Uwchgynghrair Cymru tymor nesaf.
Mewn newidiadau gweddnewidiol i Uwchgynghrair Rygbi’r Principality ar gyfer 2012/13, ni fydd un o glybiau enwocaf Cymru’n gymwys i chwarae yn yr adran uchaf.
Dywedodd bargyfreithiwr ar ran Undeb Rygbi Cymru fod Pontypwl “ddim yn ddigon da” i gystadlu yn y gynghrair newydd, a bod y penderfyniad yn ddim i wneud a safonau eu cyfleusterau.
Mae Pontypwl wedi mynd â’r mater i’r Uchel Lys yn Llundain ond mewn datganiad, dywedodd Undeb Rygbi Cymru ei bod yn glynu at ei benderfyniad.
“Mae Undeb Rygbi Cymru yn amddiffyn ei benderfyniad ynglŷn â newidiadau i Uwchgynghrair Rygbi’r Principality ar gyfer y tymor 2012/13 yn dilyn gweithredoedd cyfreithiol gan Bontypwl,” meddai’r datganiad.
“Bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud ynglŷn ag aildrefnu’r Uwchgynghrair a’r Pencampwriaethau Cenedlaethol newydd yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys fis nesaf,” ychwanegodd y datganiad.
Mae Clwb Rygbi Pontypwl yn dadlau fod Undeb Rygbi Cymru wedi anwybyddu’r canllawiau diogelwch angenrheidiol sydd angen ar rhai o’r clybiau wrth lunio’r gynghrair newydd.