Andy Murray
Heather Watson yw’r ferch Brydeinig gyntaf i gyrraedd trydedd rownd Wimbledon ers 2002.

Bydd pedwar Prydeiniwr arall yn ceisio ymuno â hi yn y rownd nesaf heddiw. Bydd Andy Murray yn wynebu Ivo Karlovic, tra bydd James Ward yn herio Mardy Fish.

Yng nghystadleuaeth y merched, Anne Keothavong ac Elena Baltacha fydd yn ceisio efelychu camp Heather Watson nes ymlaen y prynhawn yma.

Elena Baltacha sy’n wynebu’r her anoddaf, o bosib, wrth iddi hi ymdrechu i oresgyn pencampwr Wimbledon y llynedd, Petra Kvitova.

Mae gwrthwynebydd Andy Murray, Ivo Karlovic o Groatia, yn 6’10 ac mae’r Albanwr yn ymwybodol iawn o’i gryfderau.

“Bydd adegau yn y gêm lle na fydd gen i gyfle i gyffwrdd y bêl pan fydd o’n serfio, felly mae’n bwysig i beidio colli ffocws pan dw i’n cael y cyfle i serfio,” meddai Andy Murray, sydd yn bedwerydd detholyn yn y byd.

Daeth sioc fwyaf y gystadleuaeth gyn belled yng nghystadleuaeth y merched, pan gollodd Venus Williams yn y rownd gyntaf yn erbyn Elena Vesniva.