Gareth Bale
Mae dyfodol seren tîm pêl-droed Cymru, Gareth Bale gyda Tottenham Hotspur wedi’i ddatrys, ar ôl iddo arwyddo cytundeb pedair blynedd gyda’r clwb yn Llundain.
Roedd yna amheuon y gallai un o glybiau Sbaen ei ddenu o’r Uwch Gynghrair, gyda Barcelona a Real Madrid ymhlith y rhai a ddangosodd ddiddordeb yn yr asgellwr 22 oed.
Methodd Spurs â chyrraedd cystadleuaeth Cynghrair y Pencampwyr ar gyfer y tymor nesaf, er iddyn nhw orffen yn y pedwerydd safle, a hynny am fod Chelsea wedi cipio’r lle olaf drwy ennill y gystadleuaeth.
Mae Bale wedi bod yn un o chwaraewyr disgleiria’r Uwch Gynghrair ers rhai tymhorau, ac mae ei enw wedi ymddangos yn nhîm goreuon y gynghrair ddwy flynedd o’r bron.
Cafodd ei enwi yn nhîm goreuon UEFA y llynedd hefyd.
Mae Bale wedi sgorio 29 gôl mewn 160 o gemau i Spurs, sydd wedi dringo i uchelfannau’r Uwch Gynghrair yn y tymhorau diwethaf o dan arweiniad Harry Redknapp.
Dywedodd Bale: “Rwy wedi bod yma ers pum mlynedd bellach ac wedi mwynhau pob munud.
“Mae’r ffans wedi bod yn grêt tuag ata i a byddwn i wrth fy modd yn cael rhoi rhywbeth yn ôl iddyn nhw a gwneud fy ngorau iddyn nhw.
“Mae Tottenham yn mynd o nerth i nerth ac rwy am fod yn rhan o hynny, felly roedd yn wych cael cadarnhau’r cytundeb.
“Mae gyda ni garfan ifanc dda ac mae angen i ni gydweithio i gyrraedd y llwyfan mwyaf unwaith eto.”