Stadiwm Nantporth, Bangor
Mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi gostwng pris y tocynnau ar gyfer y gêm ragbrofol Cynghrair Europa yn erbyn FC Zimbru fis nesaf yn dilyn “adborth” y cefnogwyr.

Yn wreiddiol roedd tocyn i oedolyn ar gyfer y gêm yn costio £17, a £10 i blant hyd at 12 oed.

Erbyn hyn, bydd tocynnau i oedolion yn costio £15, tra bod tocynnau i blant hyd at 16 oed yn costio £8.

Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd y clwb, Dilwyn Jones, “Yn dilyn adborth ynglŷn â phrisiau i’r gêm yng Nghynghrair Europa fis nesaf, mae’r bwrdd a finnau wedi adolygu’r system brisio.

“Yn ein cyfarfod diwethaf, cyn i ni gael gwybod ein gwrthwynebwyr, fe wnaethom ni gytuno ar brisiau gyda Chymdeithas y Cefnogwyr – £15 i oedolion a £8 i blant.

“Ond yn dilyn cael gwybod ein gwrthwynebwyr, gwnaethpwyd y penderfyniad i gynyddu pris tocyn oedolyn ar ôl pwyso a mesur costau’r gêm ac ati.

“Ond oherwydd yr effaith y caiff y newidiadau hyn ar deuluoedd ifanc a phlant, rydym wedi penderfynu troi’n ôl at y pris gwreiddiol sef £15 i oedolion a £8 i blant hyd at 16 oed.”

Dywedodd y cynghorydd lleol Nigel Pickavance ddoe fod y cynnydd mewn pris yn “annheg ac yn anghyfiawn.”

“Mae’r cynnydd mewn prisiau yn mynd i effeithio’n wael ar y dorf heb os.”

Mae pris tocyn arferol yn Nantporth yn costio £8 i oedolion a thocynnau i blant yn £2.

Mae’r gêm yn erbyn FC Zimbru ar 5 Gorffennaf a’r gic gyntaf am 7.45yh.